Dewch i weld un o sioeau gorau natur: Cawod o Sêr Gwib Perseid, yn fyw o'r awyr dywyll uwchlaw'r Parc Cenedlaethol.
Bydd arbenigwyr o Awyr Dywyll Cymru yn eich helpu chi i archwilio'r wybrennau yn eu planetariwm symudol; edrychwch ar y sêr a'r planedau trwy delesgopau.
Os bydd hi'n gymylog cynhelir ystod o ddarlithoedd ar y pwnc.
Os bydd y tywydd yn ein herbyn ni, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gyda chyflwyniad a'r planetariwm symudol.
Am ragor o wybodaeth am Awyr Dywyll Cymru ewch i
www.darkskywalestrainingservices.co.uk
www.facebook.com/darkskywales/
Tocynnau yn £15 sy'n cynnwys Coffi a Chacen i roi'r dechrau gorau i'ch noson. Mae'r digwyddiad hwn yn dechrau am 7.00pm.
Dewch â siaced gynnes gan y gall hi oeri hyd yn oed yng nghanol yr haf.
Fe'i trefnir gan Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar y cyd gydag Awyr Dywyll Cymru
Cwrdd: Canolfan i Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus, LD3 8ER.
Cost: £15:00 y pen (canllaw oed 8+ oed). Pris yn cynnwys parcio, mynediad i'r planetariwm a darlith a'ch Coffi a Chacen.