Dates:
17/08/2017 12:00 - 20/08/2017 23:45

Gŵyl gerddoriaeth annibynnol a gynhelir ym Mannau prydferth Brycheiniog yw'r Dyn Gwyrdd. Mae hi wedi esblygu o ddigwyddiad undydd i ŵyl saith diwrnod o hyd yn llawn cerddoriaeth fyw gan gynnwys cerddoriaeth psych, gwerin, annibynnol, dawns ac Americana, yn ogystal â DJs sy'n chwarae popeth o dub-reggae i roc electro a stoner, a hynny drwy'r nos. Mae llenyddiaeth, ffilm, theatr, ceilidh, coelcerthi trwy'r nos, comedi a gigiau cyfrinachol i gyd yn rhan o hunaniaeth yr ŵyl unigryw hon. Mae hi wedi ennill ei phlwy fel gŵyl foesegol sydd ddim yn gorfforaethol.