TAITH AR HYD GLAN YR AFON YN Y FENNI

Golwg fanwl ar afon Wysg.

 
Taith gerdded braf a hawdd ei chyrraedd ar hyd glannau hyfryd afon Wysg. Ar eich taith, byddwch yn mynd heibio i ddolydd gwyrddion a dŵr clir yr afon wrth iddi lifo ar ei thaith. Byddwch hefyd yn gweld llawer iawn o fywyd gwyllt ac yn dod i ddeall dipyn ar hanes y Fenni fel tref sy’n borth i Gymru.



Manylion pwysig

Hyd: Ychydig llai na 4½ milltir (7km)
Amser: 1½–2 awr  
Dechrau: Arosfan bws Fferm Pysgodlyn ger Fferm a Maes Pebyll Pysgodlyn ar yr A40 rhwng y Fenni a Chrughywel (cyfeirnod map OS: SO 268156)
Gorffen: Gorsaf fysus y Fenni (cyfeirnod map OS: SO 302140)
Mae bysus yn teithio’n rheolaidd o’r Fenni i’r man cychwyn ar lwybrau X43 a 43
Map OS: Explorer OL13 (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Canolfan ymwelwyr a thoiledau yng ngorsaf fysus y Fenni, caffis, tafarndai, siopau a gorsaf reilffordd yn y Fenni

Ar hyd y daith

Dolydd Castell
Bydd gwylwyr adar yn falch o glywed bod llawer iawn o adar i’w gweld ar hyd y darn yma o afon Wysg. Mae heidiau o wenoliaid y glennydd yn nythu yng nglannau tywodlyd yr afon, gan roi arddangosfa drawiadol o gampau cyflym yn yr awyr wrth iddynt ddal pryfed wrth hedfan. Gellir gweld glas y dorlan yma’n rheolaidd hefyd a thros fisoedd y gaeaf, mae cyfle da i weld hwyaid danheddog. Mae’r gwrywod yn hynod ysblennydd yn eu plu gwyn llachar a’u pen du a gwyrdd.                 
 
Afon Wysg
Mae ei tharddiad yng nghronfa ddŵr y Wysg wrth droed y Mynydd Du anghysbell yng ngorllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n llifo am 63 milltir (102km) gan gyrraedd y môr yng Nghasnewydd. Ar y rhan fwyaf o’i thaith - yn enwedig yn y darn canol yn ardal y Fenni - mae’n llifo drwy gwm llydan a hardd gyda chanolbarth Bannau Brycheiniog i’r gorllewin iddi a’r tir sy’n ffinio â’r Mynyddoedd Duon i’r dwyrain. Mae’r afon yn nodedig am ei fflora a’i ffawna (ac yn werthfawr iawn i bysgotwyr oherwydd yr eogiaid a’r brithyll sydd ynddi) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.         
 
Castell y Fenni     
Sylfaenwyd castell adfeiliedig y dref yn yr 11eg ganrif a thyfodd i fod yn gaer drawiadol o gerrig erbyn y 1300au, cyn cael ei ddymchwel gan Siarl I yn 1645. Mae gweddillion y castell yn gartref i Amgueddfa’r Fenni erbyn hyn. Mae’n gyfleuster sy’n edrych ar hanes lleol dros ganrifoedd lawer ac yn rhoi sylw i bob math o bethau, o arteffactau Rhufeinig i gysgodfan wedi’i ail-greu o’r Ail Ryfel Byd i warchod rhag cyrch awyr. Hefyd, mae yma gegin Gymreig yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a phosteri’n hysbysebu sioe The Beatles yn 1963 yn Neuadd y Dref y Fenni.         
 
Pont Llanfoist
Mae’r groesfan hon dros yr afon yn cysylltu’r Fenni â Llanfoist gerllaw ac mae wedi bod yn bwysig ers cyfnod Brenin Harri’r VI. Dyma’r rheswm dros ei henw blaenorol, sef Pont Tudor. Mae’r bont saith bwa wedi cael ei haddasu’n sylweddol dros y blynyddoedd, ac yn fwyaf nodedig ar ddechrau’r 19eg ganrif pan gafodd ei lledu i dderbyn tramiau. Arhoswch am seibiant a rhywbeth i’w fwyta yn nhafarn y Bridge End gerllaw am olygfa hyfryd o’r bont a dyfroedd braf afon Wysg.                    

You might also be interested in...