Bryniau a mynyddoedd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

  • Enjoy the wide open spaces of the Black Mountain range
  • Take the whole family walking on the Sugar Loaf in the Black Mountains
  • Feel on top of the world in the Central Beacons
  • Discover the ancient heritage of the Fforest Fawr massif

Mae’r Parc wedi’i enwi ar ôl y bryniau a’r mynyddoedd sy’n ganolbwynt iddo. Er bod y tir o fewn ein Parc yn hynod amrywiol, y bryniau agored, gwyllt, wedi’u cerfio gan iâ ac ôl y tywydd yn glir arnynt, yw’n tirweddau nodweddiadol.

O ran rhywogaethau ucheldir o anifeiliaid a phlanhigion, maent yn ffurfio cysylltiad hanfodol rhwng tir gwyllt anghysbell Dartmoor ac Exmoor yn ne-ddwyrain Lloegr a mynyddoedd ehangach Eryri a gogledd Lloegr.

Mae pedair prif gadwyn o fynyddoedd o fewn y Parc. Yn ddigon dryslyd, mae gan ddwy ohonynt enwau tebyg iawn er eu bod ar wahân yn llwyr – cadwyn y Mynydd Du yn y gorllewin ac, yn y dwyrain, y Mynyddoedd Du, sy’n cynnwys copa o’r enw Mynydd Du.

Yn ganolbwynt i’r Parc mae’r Bannau Brycheiniog eu hunain, neu’r Bannau Canolog fel y cânt eu galw’n aml iawn. Eu copa, Pen-y-fan, yw’r pwynt uchaf yn ne Prydain.

Rhwng cadwyn y Mynydd Du a’r Bannau Canolog mae massif Fforest Fawr, yr amrwym o ucheldir sy’n rhoi ei enw i’n Geoparc ni.